Cym | Eng

Newyddion

Galw am fwy o chwarae stryd i wella datblygiad plant

Date

09.08.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Dim ond 27% o blant y DU sy’n dweud eu bod yn chwarae y tu allan yn rheolaidd ar eu stryd, yn ôl ymchwil newydd a gynhaliwyd gan OnePoll gyda chefnogaeth Achub y Plant.

Cyhoeddwyd yr arolwg o 3000 o oedolion a phlant i nodi Diwrnod Chwarae eleni. Canfu wrthgyferbyniad llwyr rhwng nifer y plant sy’n chwarae allan heddiw, ac 80% o bobl 55-64 oed a chwareuodd tu allan fel plant.

Nododd yr arolwg hefyd fod 30% o blant yn dweud eu bod yn cael eu cyfyngu rhag chwarae tu allan gan rieni a chymdogion yn cwyno eu bod yn gwneud sŵn.

Mynegodd Helen Dodd, Athro Seicoleg Plant ym Mhrifysgol Caerwysg, bryder am y canfyddiadau, gan ddweud:

‘Gallai rhai canlyniadau o’r lefel is hwn o chwarae allan fod ar ddatblygiad cyfeillgarwch, sgiliau cymdeithasol, rhyddid, annibyniaeth a thrafod gofodau a rennir. Rydym hefyd yn pryderu y gallai’r newidiadau hyn i brofiadau plant gael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl.’

Cwblhawyd yr arolwg gan 1000 o blant a phobl ifanc 6 i 16 oed, 1000 o oedolion a 1000 o rieni plant 6 i 16 oed.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors