Cym | Eng

Newyddion

Pecynnau natur rhad ac am ddim i fudiadau cymunedol yng Nghymru

Date

08.08.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Gall grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru wneud cais am becynnau natur rhad ac am ddim drwy brosiect Lleoedd Lleol Cadwch Gymru’n Daclus.

Nawr yn ei drydydd flwyddyn, mae’r prosiect yn cynnig pecynnau rhad ac am ddim yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau eraill.

Mae tri math o becynnau ar gael:

  • Pecynnau dechreuol ar gyfer grwpiau cymunedol neu wirfoddol sydd am greu gardd tyfu bwyd neu erddi bywyd gwyllt bach
  • Pecynnau datblygu ar gyfer sefydliadau cymunedol sy’n barod i ymgymryd â phrosiect mwy ac adeiladu gardd tyfu bwyd neu ardd bywyd gwyllt
  • Newydd ar gyfer 2022 – Pecynnau perllan gymunedol ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd am greu hwb awyr agored fach ar dir sydd ‘yn berchnogaeth ddielw’.

Mae’r prosiect yn annog unrhyw un sydd â gofod cymunedol i wneud cais. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i brosiectau mewn ardaloedd trefol, ardaloedd difreintiedig, ac ardaloedd sydd ag ychydig neu ddim mynediad at natur.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors