Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae cofrestredig sydd eisiau cyflogi pobl o dramor, gan gynnwys y rhai sydd yn ffoaduriaid.
Mae’r canllawiau yn cadarnhau bod gofynion gorfodol fel gwiriadau DBS manylach yn parhau ac yn cynnig eglurder ynghylch y dogfennau a’r prosesau angenrheidiol.
Mae’r canllawiau yn cynnwys cyngor penodol ar gefnogi’r rhai sy’n cyrraedd o Iwcrain. Fodd bynnag, mae’r cyngor a amlinellwyd a’r gofynion a nodir yn berthnasol i bob ffoadur.
Ar wefan Llywodraeth Cymru ceir: