Cym | Eng

Newyddion

‘Byddai’n well gen i fod yn chwarae’ – plant yn galw am fwy o amser i chwarae

Date

03.08.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Dengys arolwg newydd gan Plentyndod Chwareus bod 62% o blant yn dweud yr hoffent chwarae fwy na phum gwaith yr wythnos, ond eto dywedodd bron i un o bob tri – gyda 35% o rieni’n cytuno gyda nhw – bod sgrolio trwy TikTok a gwylio fideos YouTube yn eu hatal rhag gwneud hynny.

Chwarae ydi un o’r elfennau cyfraniadol pwysicaf i les cyffredinol plentyn gyda dros 90% o rieni ledled Cymru’n dweud bod chwarae’n cael effaith positif ar iechyd meddwl eu plant, gyda 69% o blant yn dweud bod chwarae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus neu’n gyffrous. Er gwaethaf hyn, dywedodd 22% o blant bod cael neb i chwarae gyda nhw’n ffactor arall sy’n eu hatal rhag chwarae o gwbl.

Wrth siarad am pam y byddai’n well ganddi fod yn chwarae, dywedodd Summer Pritchard, sy’n 13 oed, o Dreherbert: ‘Mae chwarae’n gwneud imi deimlo’n rhydd. Ac os nad oedd gen i chwarae i droi ato, fe fyddwn i yn fy ystafell yn gwylio TikTok ar fy ffôn.’

Cyhoeddwyd canlyniadau’r arolwg i lansio ymgyrch yr haf Plentyndod Chwareus – Amser i Chwarae – ac i ddathlu Diwrnod Chwarae. Mae’r ymgyrch Amser i Chwarae yn anelu i annog a chefnogi rhieni a gofalwyr i ysbrydoli ac ysgogi mwy o gyfleoedd i’w plant chwarae dros yr haf a thu hwnt.

Cymrodd 1000 o ymatebwyr yng Nghymru ran yn yr arolwg – 500 o rieni gyda phlant dan 15 oed a 500 o blant 5 i 15 oed – a gynhaliwyd yr wythnos yn cychwyn 11 Gorffennaf 2022.

Rhagor o wybodaeth

 

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors