Archwiliwch
Mae’r UK Playwork NOS Consortium yn gwahodd ceisiadau tendro ar gyfer Prosiect Cwmpasu 2022 Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Gwaith Chwarae.
Nod y prosiect cwmpasu yw nodi:
- sefydliadau a rhanddeiliaid allweddol mewn adolygiad o’r NOS Gwaith Chwarae yn y dyfodol
- nodi unrhyw yrwyr a rhwystrau sy’n benodol i genedl a gwneud argymhellion ar gyfeiriad adolygiad NOS yn y dyfodol.
Mae’r consortiwm am gynnal ymarfer cwmpasu i sicrhau bod anghenion y pedair gwlad yn cael eu hadlewyrchu yng nghynlluniau’r dyfodol. Y bwriad yw gwneud gwaith paratoi yn ystod 2022 i fodloni gofynion rhaglen Safonau a Fframweithiau’r DU ac i Gonsortiwm Gwaith Chwarae NOS y DU gael ei ychwanegu at Fframwaith Cyflenwyr NOS.
Mae’r UK Playwork NOS Consortium wedi’i sefydlu gan Chwarae Cymru, Play England, Play Scotland, PlayBoard Northern Ireland a’r Playwork Foundation i wneud cais am, neu nodi, cyllid ar gyfer adolygiad o’r NOS Gwaith Chwarae yn y dyfodol.
Y gyllideb ar gyfer y prosiect cwmpasu yw £2,500 (gan gynnwys TAW).
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb: 12:00pm 9 Medi 2022