Archwiliwch
Mae Senedd Cymru wedi cymeradwyo deddfwriaeth i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr o 30mya i 20mya.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn, gyda’r nod o achub bywydau, datblygu cymunedau mwy diogel, gwella ansawdd bywyd ac annog mwy o bobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a llesol.
Mae’r terfynau cyflymder arafach newydd yn cael eu treialu mewn wyth cymuned ledled Cymru ar hyn o bryd. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno’n genedlaethol ym mis Medi 2023.
Wrth groesawu’r ddeddfwriaeth, dywedodd Chwarae Cymru:
‘Mae Chwarae Cymru wedi dadlau ers amser maith y gallai mabwysiadu terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig gael yr effaith fwyaf pellgyrhaeddol a chadarnhaol ar gefnogi plant i chwarae allan yn eu cymdogaeth.
Mae plant angen lleoedd o safon yn eu cymdogaethau eu hunain ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd, ac mae ganddyn nhw hawl i hynny. Dros y blynyddoedd mae dwysedd traffig cyflym wedi cynyddu’n sylweddol. Mae plant a rhieni yn dweud wrthym fod rhyddid i chwarae tu allan yn cael ei rhwystro pan bo ffyrdd yn cael eu dominyddu gan yrwyr ceir a thraffig cyflym.’