Cym | Eng

Newyddion

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol

Date

14.06.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol i fynd i’r afael â hiliaeth systemig a gyfundrefnol.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar y ffyrdd y mae hiliaeth yn effeithio ar fywydau pobl o leiafrifoedd ethnig ac mae’n cynnwys camau gweithredu arfaethedig ar gyfer y sectorau gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar i’w gweithredu dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae mynd i’r afael â hiliaeth yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ac mae wedi’i osod yn erbyn y weledigaeth o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030.

Yn amlinellu y nodau i Gymru ddod yn Genedl Wrth-Hiliol, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

‘Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol wedi’i seilio ar werthoedd Gwrth-hiliaeth, ac yn galw am gymryd camau o ran ein polisïau a’n ffyrdd o weithio, yn hytrach na rhoi’r baich ar bobl ethnig leiafrifol i weithredu eu hunain.

‘Lluniwyd y Cynllun ar y cyd gyda phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan fanteisio ar eu profiad bywyd, ac fe gafodd ei ddatblygu mewn cydweithrediad ag ystod eang o gymunedau a sefydliadau ar draws pob rhan o Gymru, ar sail tystiolaeth.

‘Rydyn ni’n gwybod bod angen inni sicrhau bod lleisiau a phrofiadau bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu clywed, ac ar ben hynny ein bod yn gweithredu ar yr hyn a glywir.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors