Archwiliwch
Mae gwefan newydd Cynhadledd y Byd yr International Play Association (IPA) wedi’i lansio gan IPA Scotland, a fydd yn cynnal y gynhadledd deirblwydd yng Nglasgow yn 2023.
Yn cael ei chynnal rhwng 6 a 9 Mehefin, teitl y gynhadledd yw Chwarae: Hawliau a Chyfrifoldebau a bydd yn nodi’r digwyddiad wyneb yn wyneb ar raddfa fawr cyntaf ar gyfer y gymuned chwarae ryngwladol ers cynhadledd IPA Canada, a gynhaliwyd yn 2017.
Mae gwefan y gynhadledd yn llawn gwybodaeth, gan gynnwys rhagor o fanylion am y thema a’r is-themâu, lleoliad, ac amlinelliad o’r rhaglen. Bydd diweddariadau pellach, gan gynnwys sut i archebu, yn cael eu hychwanegu yn ystod yr wythnosau nesaf.