Cym | Eng

Newyddion

Yr Arolwg Bodlonrwydd Chwarae: Canllaw i’w ddefnyddio’n lleol

Date

11.05.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Yr Arolwg Bodlonrwydd Chwarae: Canllaw i’w ddefnyddio’n lleol wedi ei greu i gynorthwyo swyddogion awdurdodau lleol i ymgynghori â phlant fel rhan o’u gofynion Dyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.

Mae’r canllaw newydd hwn yn amlinellu arfer da wrth gynllunio, paratoi a defnyddio’r arolwg, ac mae’n darparu arweiniad ar gasglu, prosesu a chyflawni dadansoddiadau syml o’r data. Wedi ei ysgrifennu gan David Dallimore, fe’i anelir at swyddogion awdurdodau lleol sy’n cynnal arolygon bodlonrwydd chwarae.

Pwrpas yr Arolwg Bodlonrwydd Chwarae yw ennill dealltwriaeth o farn plant ar ddigonolrwydd cyfleoedd i chwarae yn eu hardal. Mae hyn yn allweddol yng nghofynion rhan gyntaf y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, sef deall y rhwystrau i greu amgylchedd chwarae gyfeillgar. Gall arolwg fynd beth o’r ffordd i gyflawni’r amcan hon, a gall y canlyniadau fod â rôl bwysig yn rhan dau o’r ddyletswydd trwy ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i ddynodi’r bylchau mewn darpariaeth a chynorthwyo gyda datblygu cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â’r bylchau hyn.

Rydym yn annog pob awdurdod lleol i ddefnyddio’r Arolwg Bodlonrwydd Chwarae safonol er mwyn gallu cymharu profiadau rhwng ardaloedd a dros amser. Byddai hyn yn hynod o ddefnyddiol, yn lleol ac yn genedlaethol, wrth ddatblygu polisi chwarae.

Mae David yn gynghorydd polisi ac ymgynghorydd ymchwil sy’n arbenigo mewn chwarae a gofal plant y blynyddoedd cynnar.

Lawrlwytho | gweld ar-lein

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors