Cym | Eng

Newyddion

Buddsoddi mewn ysgolion bro

Date

31.03.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn buddsoddi bron i £25m mewn ysgolion bro yn y flwyddyn ariannol nesaf i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad pobl ifanc.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i sicrhau y gall rhagor o ysgolion weithredu a datblygu yn ysgolion bro, sy’n ymgysylltu â theuluoedd a gweithio gyda’r gymuned ehangach i gefnogi pob disgybl, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais oherwydd tlodi.

O’r cyllid hwn, bydd £20m yn cael ei fuddsoddi yn y gwaith o ddarparu ysgolion bro, i ariannu ffyrdd ymarferol o wella cyfleusterau ysgolion er mwyn i’r gymuned allu gwneud gwell defnydd ohonynt. Mae hyn yn cynnwys darparu storfeydd cyfarpar ar gyfer grwpiau cymunedol sy’n cynnal gweithgareddau allgyrsiol a chyflwyno mesurau diogelwch er mwyn i ardaloedd y mae’r ysgol a’r gymuned yn eu defnyddio allu cael eu cadw ar wahân.

Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol ledled Cymru gan ddefnyddio fformiwla sy’n seiliedig ar niferoedd disgyblion ac ysgolion.

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS:

‘Mae ysgolion bro yn datblygu partneriaethau ag ystod o sefydliadau, ac yn sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn lleol i deuluoedd ac i’r gymuned ehangach. Maent yn defnyddio eu cyfleusterau a’u hadnoddau er budd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethau, gan wella bywyd plant, cryfhau teuluoedd ac adeiladu cymunedau cryfach.’

Dywed Chwarae Cymru:

‘Mae Chwarae Cymru yn croesawu buddsoddiad ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall mwy o ysgolion weithredu a datblygu fel ysgolion bro. Mae hyn yn cefnogi’r alwad yn ein manifesto, Cymru – lle chwarae gyfeillgar ar Lywodraeth Cymru i wneud gwell defnydd o asedau cymunedol, megis tiroedd ysgol, ar gyfer chwarae.

Mae mynediad plant i fannau awyr agored ar gyfer chwarae, ymarfer corff a mwynhad yn amrywio’n fawr ledled Cymru a chynyddodd yr annhegwch hwn yn ystod y pandemig coronafeirws a’r cyfnodau clo. Mae annog plant a’u teuluoedd i “aros a chwarae” pan ddaw’r diwrnod addysgu i ben yn dod â buddiannau aruthrol, o’r effeithiau cadarnhaol ar iechyd a hapusrwydd plant, ymgysylltu â’r gymuned a lles, i wella ymdeimlad lleol o gymuned.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors