Archwiliwch
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) y GIG a Gofal Cymdeithasol Cymru yn ymgynghori ar y camau gweithredu allweddol a fydd yn ffurfio sylfeini’r cynllun gweithlu iechyd meddwl amlbroffesiynol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn ymateb i’r camau gweithredu a amlinellir yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ac mae’n cynnwys pob rhan o’r gweithlu sy’n chwarae rhan mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl.
Croesewir cyfraniadau gan unigolion, cynrychiolwyr, grwpiau a sefydliadau.
Dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad: 28 Mawrth 2022