Cym | Eng

Newyddion

Ap newydd i blant ac arddegwyr siapio eu cymuned

Date

24.02.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r ap newydd, RPlace, yn galluogi plant ac arddegwyr i gymryd rhan yn y broses o fapio eu cymuned drwy ganiatáu iddynt werthuso, argymell, lanlwytho lluniau ac ychwanegu lleoliadau y maent am iddynt gael eu newid. Gall defnyddwyr rannu’r hyn y maent yn ei hoffi, ac yn ei gasáu, am ble maent yn byw, yn chwarae ac yn mynd gyda’u ffrindiau, ac i ddweud eu dweud am yr hyn y mae angen ei wella.

Gellir ychwanegu adolygiadau dan chwe chategori gwahanol:

  • Gweithgareddau/chwarae
  • Mannau gwyrdd
  • Cwrdd â ffrindiau
  • Diogelwch
  • Llygredd/glendid
  • Hygyrchedd.

 

Wedi ei ddatblygu gan y prosiectau ymchwil HAPEN ac ACTIVE ym Mhrifysgol Abertawe – ac ei gefnogi gan Chwarae Cymru – mae’r ap yn rhad ac am ddim ac yn ddiogel i’w ddefnyddio. Mae ar gael ar Android ac Apple.

Bydd yr ymchwilwyr yn rhannu’r adolygiadau a’r data gyda chynghorau lleol, yr heddlu ac elusennau – cyrff digon pwerus i gymryd camau gweithredu a gwella cymunedau – i helpu i wneud mannau yn fwy diogel a gwell i blant ac arddegwyr chwarae a chymdeithasu ynddynt.

Dywed Dr Michaela James, prif ymchwilydd RPlace:

‘Gwnaeth ein gwaith ymchwil blaenorol ddangos bod pobl ifanc am gymryd rhan yn eu cymunedau lleol, ond maent yn teimlo bod prinder cyfleusterau neu fod cyfleusterau’n rhy ddrud. Maent hefyd yn dweud bod gormod o draffig a sbwriel ac nad ydynt yn teimlo’n ddiogel weithiau. Roeddem am roi llais iddynt er mwyn newid eu cymunedau lleol a goresgyn y rhwystrau hyn. Gall RPlace helpu i rymuso pobl ifanc ac i gefnogi eu dymuniadau a’u hanghenion.’ 

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors