Cym | Eng

Newyddion

Stopio cosbi corfforol yng Nghymru

Date

23.02.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar y Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020

Bydd 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru. O’r diwrnod hwn ymlaen, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.

Beth yw cosb gorfforol?

Mae sawl math o gosb gorfforol. Fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd. Ond mae mathau eraill hefyd. Mae’n amhosibl rhestru pob math o gosb gorfforol. Gall fod yn unrhyw ddull o gosbi plentyn gan ddefnyddio grym corfforol.

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai unrhyw fath o gosb gorfforol fod yn niweidiol i blant.

Beth mae’r newid yn y gyfraith yn ei olygu?

  • Bydd cosbi corfforol o unrhyw fath yn anghyfreithlon yng Nghymru.
  • Bydd gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.
  • Bydd yn gwneud y gyfraith yn gliriach – gan ei gwneud yn haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall.
     

A fydd y newid yn y gyfraith yn berthnasol i bawb yng Nghymru?

Bydd, bydd yn berthnasol i bawb – rhieni neu unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn tra bo’r rhieni’n absennol. Ac fel gyda chyfreithiau eraill, bydd yn berthnasol i ymwelwyr â Chymru hefyd.

Mae cosbi corfforol eisoes yn anghyfreithlon mewn ysgolion, cartrefi plant, cartrefi gofal maeth awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant.

Lawrlwytho taflen wybodaeth ar gyfer gweithlu’r sector gofal plant a gwaith chwarae

Rhagor o wybodaeth am adnoddau pellach

Rhagor o wybodaeth am y ddeddf

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors