Cym | Eng

Newyddion

API yn galw am fannau chwarae cyfartal i bawb

Date

17.02.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Association of Play Industries (API) yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau mynediad cyfartal i bawb i fannau chwarae cyhoeddus. Dengys arolwg Rhyddid Gwybodaeth a gynhaliwyd gan API yn 2020-21 bod gan rhai rhanbarthau yn y DU bron i bump gwaith gymaint o fannau chwarae âg eraill.

Dywed API:

‘Mae’r ymchwil yn amlygu’r “loteri cod post” sy’n wynebu plant a theuluoedd, gyda rhai ardaloedd yn cael eu gwasanaethu’n dda tra bod eraill yn cael eu hamddifadu o adnoddau chwarae cymunedol yn ddifrifol. Mae gan blant yn Llundain fynediad i bron i bum gwaith yn llai o feysydd chwarae cyhoeddus na phlant yn yr Alban … mae plant Cymru yn mwynhau mynediad i dros ddwywaith y nifer o feysydd chwarae plant yn Llundain.’

Fel rhan o’u hymgyrch newydd, Equal Play, mae API yn galw am ‘Ariannu wedi ei glustnodi ar gyfer chwarae gan lywodraeth canolog, i alluogi awdurdodau lleol i ddapraru POB plentyn gyda maes chwarae diogel, o safon uchel gerllaw.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors