Cym | Eng

Newyddion

Chwarae er lles – cylchgrawn newydd

Date

19.01.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae chwarae’n darparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a gweithgarwch corfforol. Gall hefyd leihau straen a’r blant a hyrwyddo eu lles. Mae’n hanfodol bod pob plentyn yn cael yr amser a’r lle diogel y maent eu hangen i fwynhau ystod eang o gyfleoedd chwareus drwy’r Gaeaf Llawn Lles, a thrwy gydol y flwyddyn.

Rydym wedi rhoi’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru at ei gilydd i dynnu sylw at sut mae cyfleoedd i chwarae’n cyfrannu at les plant. Mae’r rhifyn Chwarae er lles yn cynnwys:

  • Agor strydoedd ar gyfer chwarae, iechyd a lles
  • Chwarae mewn modd anturus: er lles ac fel gwrthbwys i orbryder – gan gynnwys erthygl blog a ysgrifennwyd gan Helen Dodd, Athro seicoleg plant ym Mhrifysgol Caerwysg
  • Gwarchod amser chwarae mewn ysgolion ar gyfer lles
  • Ymchwil lles gyda phlant yng Nghymru – a ysgrifennwyd gan Mustafa Rasheed, ymchwilydd i iechyd plant ym Mhrifysgol Abertawe
  • Gaeaf Llawn Lles – diweddariad gan Llywodraeth Cymru
  • Chwarae i’r dyfodol – sut mae chwarae’n cyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Haf o Chwarae – crynodeb o weithgarwch ledled Cymru
  • Plant yn dweud eu dweud ar yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae
  • Diweddariad am y cymwysterau gwaith chwarae P3.

Gweld ar-lein | lawrlwytho

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors