Archwiliwch
Rocio Cifuentes fydd Comisiynydd Plant newydd Cymru. Bydd yn cychwyn yn y swydd ym mis Ebrill 2022, pan fydd cyfnod Sally Holland fel y Comisiynydd Plant yn dod i ben.
Ar hyn o bryd, Rocio Cifuentes yw prif weithredwr Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), sef y prif sefydliad sy’n rhoi cymorth i gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.
Mae’r Comisiynydd Plant yn gyfrifol am hyrwyddo a diogelu hawliau plant, a sicrhau bod polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru o fudd i blant a phobl ifanc.
Wrth gyhoeddi’r newydd, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
‘Nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae’n rhaid i’n penderfyniadau ni, fel Llywodraeth Cymru, adlewyrchu lleisiau plant a phobl ifanc. Rwy’n falch mai Rocio Cifuentes, ein Comisiynydd newydd, fydd yn gwneud y rôl bwysig hon.’