Gwaith chwarae
Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae
Pwnc
Gwaith chwarae
Dyddiad cyhoeddi
18.04.2023
Darllen yr adnodd
Awdur: Grŵp Craffu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae
Dyddiad: 2005
Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae’n diffinio’r hyn sy’n unigryw am waith chwarae ac yn cyflwyno dealltwriaeth gytûn o’r hyn y mae gweithwyr chwarae’n ei wneud. Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn berthnasol i bob plentyn.
Mae’r Egwyddorion yn sefydlu’r fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac yn hyn o beth dylid eu hystyried fel cyfanwaith. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn darparu’r persbectif gwaith chwarae ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Mae’r Egwyddorion wedi eu seilio ar y gydnabyddiaeth y caiff gallu plant a phobl ifanc i ddatblygu’n gadarnhaol ei gyfoethogi o dderbyn mynediad i’r ystod ehangaf o amgylcheddau a chyfleoedd chwarae.