Llyfrgell adnoddau
Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru 2022
Pwnc
Llyfrgell adnoddau
Dyddiad cyhoeddi
22.11.2023
Darllen yr adnodd
Awdur: Dr David Dallimore
Dyddiad: Medi 2023
Mae’r adroddiad hwn yn darparu crynodeb o wybodaeth a gasglwyd gan awdurdodau lleol ledled Cymru fel rhan o’u Hasesiadau Digonolrwydd Chwarae yn 2022. Mae’n cyflwyno dadansoddiad o ymatebion oddi wrth bron i 7,000 o blant ac arddegwyr yng Nghymru ble maent yn sôn wrthym am yr hyn sy’n dda a beth sydd ddim cystal am y cyfleoedd chwarae yn eu hardal leol a pha mor fodlon ydyn nhw gyda phryd, sut a ble y gallant chwarae.
Mae’r adroddiad yn darparu cyfle i leisiau plant ac arddegwyr gael eu clywed, gan danlinellu:
- pwysigrwydd chwarae yn eu bywydau
- yr hyn sy’n dda a’r hyn sydd ddim cystal am y cyfleoedd chwarae yn eu hardal leol
- pa mor fodlon ydyn nhw gyda phryd, sut a ble y gallant chwarae.
Mae’r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau am fodlonrwydd plant ac arddegwyr gyda’r amser, lle a chaniatâd sydd ganddynt i chwarae, yn ogystal ag effaith COVID-19 ar eu cyfleoedd i chwarae. I bwysleisio lleisiau plant drwy’r adroddiad, mae’n cynnwys sylwadau craff gan blant ac arddegwyr o bob oed o bob cwr o Gymru.