Llyfrgell adnoddau
Gweithdy hawl i chwarae
Pwnc
Canllaw
Dyddiad cyhoeddi
28.03.2023
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Tachwedd 2020
Mae’r gweithdy hwn wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr chwarae, gweithwyr cyfranogaeth, gweithwyr ieuenctid a staff ysgolion i’w gynnal mewn ysgolion a lleoliadau strwythuredig eraill.
Mae wedi ei ddylunio i’w ddefnyddio gan unrhyw un sydd â dealltwriaeth ymarferol o sut i gefnogi a hwyluso chwarae plant gan ddefnyddio agwedd gwaith chwarae. Gallent fod yn weithwyr chwarae, gweithwyr datblygu chwarae neu’n aelod o staff dysgu.
Mae’r gweithdy yn anelu i gynyddu ymwybyddiaeth am yr hawl i chwarae. Mae hefyd yn anelu i alluogi plant a phlant yn eu harddegau i eiriol dros gyfleoedd gwell i chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.
Gellir trosglwyddo’r gweithdy ar ei ben ei hun, ond mae hefyd yn ffordd ddefnyddiol ar gyfer cychwyn perthynas gydag ysgol. Mae’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau y gellir eu defnyddio yn ystod ac ar ôl y sesiwn yn cynnwys:
- gynllun sesiwn gweithdy
- poster i blant rannu’r hyn y maent wedi ei ddysgu
- deilliannau dysgwyr i’w defnyddio mewn ysgolion.