Llyfrgell adnoddau
Chwarae y tu allan mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar – pecyn cymorth
Pwnc
Canllaw
Dyddiad cyhoeddi
30.01.2025
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Ionawr 2025
Mae’r pecyn cymorth wedi’i anelu at ymarferwyr ac asiantaethau sy’n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, a sefydliadau sy’n anelu i ymgysylltu gyda theuluoedd. Cafodd ei ddatblygu mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerwysg a Phrifysgol Stirling – Yr Athro Helen Dodd, Dr. Lily FitzGibbon a Gill Hearnshaw. Derbyniodd Chwarae Cymru arian oddi wrth Dîm Lleol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i beilota a chyhoeddi’r pecyn cymorth hwn.
Mae’r pecyn cymorth yn tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae i blant o bob oedran a chreu amgylchedd chwarae cyfoethog. Mae’r pecyn cymorth wedi’i ddylunio i:
- ddarparu gwybodaeth glir a chryno i leoliadau ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar i gynyddu cyfleoedd i blant yn eu gofal chwarae a threulio mwy o amser y tu allan
- darparu dulliau ymarferol, cam wrth gam a thempledi i gynorthwyo gyda hwyluso chwarae’r tu allan
- darparu fframwaith ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer ymarferwyr.