Llyfrgell adnoddau
Chwarae mewn ysbytai
Pwnc
Taflen wybodaeth
Dyddiad cyhoeddi
18.04.2023
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Medi 2015
Mae’r daflen wybodaeth hon wedi ei hanelu at weithwyr chwarae ac mae hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw un sydd â chyfrifoldeb am ddarparu cyfleoedd i blant chwarae.
Mae’n disgrifio rôl yr arbenigwr chwarae iechyd wrth gefnogi proses chwarae sy’n helpu plant sâl i gyfaddasu i leoliad gofal iechyd. Mae’n dangos sut all chwarae helpu plant sâl gyfranogi mwy yn y gofal y maent yn ei dderbyn.
Mae’r daflen wybodaeth yn archwilio’r gwahanol fathau o chwarae all gynorthwyo plant a’u teuluoedd i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’u salwch a’u triniaeth. Mae hefyd yn egluro pam ei bod yn bwysig darparu cyfleoedd a gofodau chwarae ar gyfer plant mewn ysbytai – a lleoliadau gofal iechyd eraill, fel hosbisau plant.