Llyfrgell adnoddau
Creu mannau chwarae hygyrch – pecyn cymorth
Pwnc
Llyfrgell adnoddau
Dyddiad cyhoeddi
22.04.2025
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru ac Alison John & Associates
Dyddiad: Ebrill 2025
Bwriad y pecyn cymorth yw cefnogi datblygu ac uwchraddio mannau chwarae hygyrch a chynhwysol yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae wedi’i anelu at awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, cynllunwyr mannau agored, cymdeithasau tai a rheolwyr parciau a meysydd chwarae.
Mae’r pecyn cymorth wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth eglur a chryno a fydd yn:
- helpu i greu mannau chwarae sy’n galluogi pob plentyn i chwarae ynddynt, ynghyd â’u ffrindiau a’u teuluoedd
- cynorthwyo pobl i ddeall a datrys materion o bryder
- darparu templedi ac offer cam wrth gam, ymarferol ar gyfer cyflawni gwaith sy’n gysylltiedig â chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu plant anabl a’u teuluoedd wrth geisio cael mynediad i fannau chwarae.
Mae’r pecyn cymorth diwygiedig hwn yn ymateb i Cynnwys Plant Anabl mewn Darpariaeth Chwarae, datganiad ar y cyd gan y Children’s Play Policy Forum a’r UK Play Safety Forum.
Datblygwyd argraffiad blaenorol y pecyn cymorth gan Chwarae Cymru ac Alison John and Associates. Cyflwynodd grŵp ffocws bychan o rieni, rheolwyr ardaloedd chwarae awdurdodau lleol, swyddogion datblygu chwarae a chynrychiolwyr o fudiadau plant gyngor ar gynnwys y pecyn cymorth gwreiddiol.