Cym | Eng

Polisi a deddfwriaeth chwarae

Hanes polisi chwarae yng Nghymru

Archwiliwch

Mae Chwarae Cymru a Senedd Cymru (yn flaenorol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru) yn rhannu hanes unigryw, neilltuol. Mae eu sefydlu – fel llywodraeth datganoledig ac fel yr elusen genedlaethol dros chwarae – â chysylltiadau clòs.

Gyda’n gilydd, rydym wedi sefydlu ymrwymiad i weithio’n gydweithrediadol i wneud Cymru’n wlad ble rydym yn cydnabod ac yn darparu ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn.

Mae chwarae’n bwysig i bob plentyn ac i bob cymuned. Ers sefydlu Chwarae Cymru yn 1998, rydym wedi eiriol dros ac ymgyrchu’n llwyddiannus dros chwarae. Rydym wedi annog Llywodraeth Cymru i sicrhau cynnydd sy’n rhyngwladol arloesol ar ran plant ac rydym wedi cefnogi hyn yn weithredol.

Mae cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi Chwarae Cymru i:

  • wthio am gyllid cynyddol ar gyfer chwarae plant
    • yn cynnwys ariannu oddi wrth Lywodraeth Cymru a’r Loteri FAWR
  • dylanwadu ar sut y mae chwarae’n cael ei gydnabod yn genedlaethol
  • chwarae rhan yn natblygiad gweithlu chwarae a gwaith chwarae dynamig
    • sicrhau bod y bobl hynny sy’n gweithio gyda phlant ac sy’n gwneud penderfyniadau am eu bywydau wedi eu hyfforddi mor dda â phosibl
  • cymryd yr awenau wrth hyrwyddo ymwybyddiaeth cynyddol am bwysigrwydd chwarae
    • cyfrannu at ddealltwriaeth cyfrannol byd-eang am bwysigrwydd chwarae i iechyd a lles plant a chymunedau.

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors