Polisi a deddfwriaeth chwarae
Digonolrwydd chwarae
Archwiliwch
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i warchod hawl plant i chwarae mewn cyfraith.
Mae Llywodraeth Cymru’n gosod gwerth mawr ar chwarae a’i bwysigrwydd ym mywydau plant ac mae’n credu:
- bod gan blant hawl sylfaenol i chwarae.
- bod chwarae’n elfen ganolog o fwynhad plant o fywyd a’i fod yn cyfrannu at eu lles.
- bod chwarae’n hanfodol ar gyfer twf yn natblygiad gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant.
- bod cyfleoedd chwarae o safon uchel ar gyfer pob plentyn yn gallu helpu i liniaru effeithiau negyddol tlodi ar fywydau plant a’u helpu i gynyddu gwytnwch plant.
- bod chwarae’n gallu bod yn ffordd o leihau anghydraddoldebau rhwng plant sy’n byw mewn teuluoedd sy’n gallu fforddio gweithgareddau drud a’r rheini sydd ddim. Mae ganddo’r grym i leihau tlodi profiadau i bob plentyn.
Mae Llywodraeth Cymru am greu amgylchedd yng Nghymru ble caiff plant gyfleoedd gwych i chwarae a mwynhau eu hamser rhydd. I gyflawni hyn, mae’r Llywodraeth wedi ei gwneud yn amod gyfreithiol i bob awdurdod lleol yng Nghymru asesu a sicrhau bod eu hardal yn darparu digon o gyfleoedd i blant chwarae. Gelwir yr amod gyfreithiol hon yn Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.
Gofynion digonolrwydd chwarae
Mae’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae wedi ei chynnwys yn adran ‘Cyfleoedd Chwarae’ Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Cyflwynwyd y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae mewn dau ran. Cychwynnodd y rhan gyntaf, sy’n dweud bod rhaid i awdurdodau lleol asesu os ydi eu hardal leol yn cynnig digon o gyfleoedd i blant chwarae, ym mis Tachwedd 2012. Mae’r ail ran, a gychwynnodd ym mis Gorffennaf 2014, yn dweud bod rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod digon o gyfleoedd i blant chwarae yn eu hardal, cyn belled ag sy’n rhesymol ac ymarferol.
Mae rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gwblhau Asesiad Digonolrwydd Chwarae (ADCh) bob tair blynedd. Cyflwynwyd yr ADCh cyntaf i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2013. Mae rhaid i awdurdodau lleol ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Chwarae hefyd a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, ynghyd ag adroddiadau cynnydd.
Yn ogystal, mae rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi crynodeb o’u ADCh ar eu gwefannau. Mae rhaid i’r grynodeb hon gynnwys canlyniadau’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae a phwysleisio’r camau gweithredu y mae’r awdurdodau lleol yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod plant yn cael digon o gyfleoedd i chwarae.
Cyfarwyddyd digonolrwydd chwarae
Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae yw’r cyfarwyddyd statudol ar gyfer awdurdodau lleol sy’n amlinellu sut i asesu a sicrhau cyfleoedd digonol i blant chwarae yn eu hardaloedd. Mae rhaid i awdurdodau lleol ystyried y naw Mater canlynol:
- Mater A: Poblogaeth
- Mater B: Diwallu anghenion amrywiol
- Mater C: Y lle sydd ar gael i blant chwarae (mannau agored, mannau chwarae dynodedig yn yr awyr agored lle nad oes staff, caeau chwarae)
- Mater Ch: Darpariaeth dan oruchwyliaeth (darpariaeth gwaith chwarae, gweithgareddau hamdden strwythuredig)
- Mater D: Codi tâl am ddarpariaeth chwarae
- Mater Dd: Mynediad i le a darpariaeth, yn cynnwys mesurau diogelwch ffyrdd, trafnidiaeth, gwybodaeth a chyhoeddusrwydd
- Mater E: Sicrhau a datblygu’r gweithlu chwarae
- Mater F: Ymgysylltu gyda’r gymuned a’i chynnwys
- Mater Ff: Chwarae ym mhob polisi perthnasol ac agenda weithredu berthnasol.
Dadansoddi Asesiadau Digonolrwydd Chwarae
Mae Chwarae Cymru wedi cynnal dadansoddiad o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (ADCh) a Chynlluniau Gweithredu Chwarae awdurdodau lleol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2022.
Cyflwr chwarae 2022 yw’r nawfed adolygiad cenedlaethol i Chwarae Cymru ei gwblhau. Mae’n ehangu ar yr adroddiad Cyflwr Chwarae a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2000, ac a ddiweddarwyd gan Chwarae Cymru wedi hynny yn 2003, 2006, 2009 a 2011.
Ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, mae Chwarae Cymru wedi adolygu’r ADCh a gyflwynwyd yn 2013, 2016 a 2019. Rydym hefyd wedi adolygu amrywiol Adroddiadau Cynnydd yn ystod y blynyddoedd rhwng y rhain.
Enghreifftiau o ddigonolrwydd chwarae
Mae Chwarae Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol a’u partneriaid i gasglu enghreifftiau o gamau gweithredu a gymerwyd yn lleol i gefnogi chwarae plant, fel rhan o waith digonolrwydd chwarae. Mae pob enghraifft yn anelu i ddangos y cyd-destun unigryw, y prosesau a’r bobl fu’n rhan o’r prosiect. Efallai y byddant yn cynnig syniadau y gellir eu haddasu ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio i gefnogi chwarae plant.
Cyflwynir yr enghreifftiau ar ffurf ‘cardiau adroddiad’, a ysbrydolwyd gan ymchwil digonolrwydd chwarae a gynhaliwyd gan Wendy Russell, Mike Barclay, Ben Tawil a Charlotte Derry. Yn yr ymchwil hwn, mae’r 26 o gardiau adroddiad yn enghreifftiau o gamau gweithredu i gefnogi chwarae plant. Cewch hyd i’r cardiau adroddiad yn adroddiad cryno adroddiad 2020, Ei gwneud hi’n bosibl i gyflawni Digonolrwydd Chwarae: Archwilio’r amodau sy’n cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd digonol i blant yng Nghymru chwarae.
Clwb Gwyliau Teuluoedd yn Gyntaf
Pecyn Cymorth Teuluoedd Chwareus
Prosiect peilot Aros a Chwarae