Llyfrgell adnoddau
Chwarae dros Gymru – rhifyn 60
Pwnc
Cylchgrawn
Dyddiad cyhoeddi
27.03.2023
Darllen yr adnodd
Gaeaf 2022
Mae’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn canolbwyntio ar fannau chwareus. Mae’n tynnu sylw at esiamplau o blant yn mwynhau enydau chwareus mewn amrywiaeth o leoedd – o fannau cyhoeddus ac atyniadau i deuluoedd megis sŵau ac amgueddfeydd i fannau sy’n llawn ansicrwydd fel ysbytai a charchardai i oedolion. Mae’r erthyglau’n cynnwys:
- Golygyddol gwadd gan ein Cadeirydd newydd Keith Towler
- Creu mannau chwarae cydnerth – gan Matt Stowe, Dylunydd Tirwedd gyda Chartrefi Conwy
- Chwarae fel moddion – gan Laura Walsh, Pennaeth Chwarae gyda Starlight
- Creu amgueddfeydd ac atyniadau chwarae-gyfeillgar yn Sir Fynwy – gan Karin Molson a Rachael Rogers o Dreftadaeth MonLife
- Plant carcharorion yn dylunio ardal chwarae awyr agored – gan Hayley Morris a Julie Williams o Wasanaethau Teuluoedd ‘Invisible Walls’.