Llyfrgell adnoddau
Chwarae dros Gymru – rhifyn 56
Pwnc
Cylchgrawn
Dyddiad cyhoeddi
27.03.2023
Darllen yr adnodd
Hydref 2020
Mae’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn canolbwyntio ar wneud i ddigonolrwydd chwarae ddigwydd. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd darparu digon o gyfleoedd i blant chwarae. Mae’r erthyglau’n cynnwys:
- Chwarae’n ystod y cyfnod clo – plentyn a phedwar o blant yn eu harddegau’n rhannu eu profiadau chwarae
- Chwarae allan ac o gwmpas – esiamplau o sut mae timau a mudiadau chwarae yn parhau i gefnogi cyfleoedd i blant chwarae ar draws Cymru
- Amserau chwarae digonol mewn ysgolion – adnoddau i gefnogi ysgolion i fod mor chwareus â phosibl
- Ei gwneud hi’n bosibl i gyflawni digonolrwydd chwarae – trosolwg gan y Dr Wendy Russell am astudiaeth ymchwil newydd
- Digonolrwydd cyfleoedd chwarae a rôl gweithwyr chwarae – sut mae’r proffesiwn gwaith chwarae yn helpu i sicrhau digon o gyfleoedd i blant chwarae.