Cym | Eng

Newyddion

Ysgolion Bro – canllawiau newydd

Date

30.11.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi ysgolion i roi dull Ysgolion Bro ar waith.

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Ysgolion Bro yn rhan allweddol o’i pholisi ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol pobl ifanc. Mae’n adlewyrchu’r cyhoeddiadau a wnaed gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Mawrth a Mehefin 2022.

Mae datblygiad Ysgolion Bro hefyd yn cefnogi ystod eang o feysydd polisi eraill, gan gynnwys hyrwyddo hawl plant i chwarae trwy agor tiroedd ysgol ar gyfer chwarae yn yr awyr agored y tu hwnt i oriau ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Atodiad i’r canllawiau sy’n egluro’r cysylltiad hwn.

Mae’r canllawiau’n cyflwyno model cydweithredol i ysgolion ddatblygu dull Ysgolion Bro drwy ymgysylltu â theuluoedd, y gymuned leol a darparwyr gwasanaethau allweddol eraill, er enghraifft, darparwyr chwarae.

Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ganllawiau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi ysgolion.

Mwy o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors