Cym | Eng

Newyddion

Ymgyrch Opal: Plan for Play

Date

23.11.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Outdoor Learning and Play (OPAL) wedi lansio ei ymgyrch Plan for Play i hybu iechyd meddwl a chorfforol plant trwy annog amser chwarae awyr agored o ansawdd mewn ysgolion.

Mae’r ymgyrch yn galw ar ysgolion i gynhyrchu cynllun sy’n dangos sut y byddan nhw’n sicrhau bod pob plentyn yn cael o leiaf awr o chwarae awyr agored rhagorol bob diwrnod ysgol.

Mae OPAL hefyd yn galw am ganllawiau i ysgolion ar beth i’w wneud a sut i’w wneud, ac ar OFSTED i sicrhau ei fod yn digwydd.

Sail yr ymgyrch yw adroddiad ymchwil, The Case for Play in Schools: A review of the literature, a olygwyd gan Wendy Russell ac a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021. Mae’n archwilio gwerth profiadau amser chwarae amrywiol ar gyfer datblygiad plant.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors