Cym | Eng

Newyddion

Ymgynghoriad: Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) Drafft 2022

Date

04.04.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Reoliadau drafft Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022. Nod y rheoliadau hyn yw disodli Rheoliadau presennol Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010.

Mae’r ddogfen ymgynghori a’r dogfennau atodol yn esbonio pwy na all gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o newidiadau allweddol ac eisiau eich barn yn eu cylch. Mae’r newidiadau’n cynnwys:

  • Cynnwys nifer fach o droseddau newydd ac wedi newid rhai cyfeiriadau at ddeddfwriaeth er mwyn eu diweddaru
  • Newid y rheoliadau i gael gwared ar rai o’r cyfyngiadau yn rheoliadau 2010 mewn perthynas â gofalwyr maeth (gan gynnwys gofalwyr sy’n berthnasau) a phobl sy’n mabwysiadu plant, a chael gwared ar rai o’r cyfyngiadau ar bobl sydd wedi bod yn destun gorchymyn gofal neu oruchwylio yn y gorffennol
  • Newid y rheoliadau fel na chaiff pobl sydd am gofrestru i ddarparu gofal dydd eu hanghymhwyso rhag gwneud hynny ar sail troseddau neu weithredoedd penodol gan bobl y maent yn byw gyda nhw neu sy’n gweithio yn eu cartref.

 

Dyddiad cau ar gyfer ymateb: 23 Mehefin 2022

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors