Archwiliwch
Mae Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU yn ymgynghori ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer gwaith chwarae. Mae’r consortiwm eisiau eich barn ar y safonau drafft ar gyfer y rolau cynorthwyydd gwaith chwarae, gweithiwr chwarae a rheolwr gwaith chwarae, yn ogystal â’r map swyddogaethol a’r eirfa.
Gellir gweld y NOS drafft, y mag swyddogaethol a’r eirfa ar amrywiaeth o blatfformau:
Am fwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad a’r broses darllenwch taflen wybodaeth #4.
I rannu eich adborth, cwlhewch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau yr ymgynghoriad yw 1 Mai 2026.
Gweminarau’r ymgynghoriad
Mae Consortiwm y NOS hefyd yn cynnal cyfres o weminarau ar draws y pedair gwlad lle y gallwch ddysgu mwy am y broses a rhoi adborth cychwynnol. Rydym wedi darparu nifer o amseroedd a dyddiadau. Os na allwch fynychu digwyddiad eich gwlad chi, mae croeso i chi archebu lle ar ddyddiad arall sy’n addas i chi.
Os hoffech chi fynychu gweminar, cofrestrwch trwy glicio ar y digwyddiad o’ch dewis:
- Yr Alban – 18 Mawrth (10:00am – 12:00pm)
- Cymru – 18 Mawrth (1:00pm – 3:00pm)
- Lloegr – 24 Mawrth (6:30pm – 8:30pm)
- Gogledd Iwerddon – 27 Mawrth (10:00 – 12:00pm)
Cofiwch gysylltu â ni gyda unrhyw gwestiynau am y gweminarau.