Cym | Eng

Newyddion

Ymgynghoriad: newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth sy’n effeithio gweithwyr chwarae a gofal plant

Date

23.08.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar newidiadau i ddeddfwriaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cynnwys cynigion sy’n effeithio ar ofal plant a gweithwyr chwarae.

Er bod y prif ffocws ar ddeddfwriaeth arfaethedig i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae meysydd eraill yn cynnwys ehangu’r diffiniad o ‘weithiwr gofal cymdeithasol’ i gynnwys pob gweithiwr gofal plant a chwarae.

Mae pennod chwech o’r ymgynghoriad yn cynnig diwygio Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (‘Deddf 2016’) i alluogi – drwy wneud rheoliadau – pob gweithiwr gofal plant a chwarae, sy’n gweithio yn y sector gofal plant, i gael eu trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol. Y nod yw darparu mandad clir i Gofal Cymdeithasol Cymru i gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â’r gweithlu gofal plant a chwarae, yn ei gyfanrwydd.

Dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad: 7 Tachwedd 2022

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors