Cym | Eng

News

Llywodraeth Cymru yn lansio Strategaeth Tlodi Plant newydd

Date

26.01.2024

Category

News

Archwiliwch

Mae Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Prif Chwip Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS wedi lansio strategaeth newydd yn ymwneud â thlodi plant yng Nghymru. Nod y strategaeth yw mynd i’r afael ag effeithiau byw mewn tlodi ar blant a gwella’u cyfleoedd.

Mae’r Strategaeth Tlodi Plant yn cynnwys pum amcan lefel uchel hirdymor:

  • lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd
  • creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial
  • cefnogi llesiant plant a’u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy’n byw mewn tlodi
  • sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a’r gwasanaethau sy’n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio’r stigma sy’n gysylltiedig â thlodi
  • sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.

Bydd y strategaeth yn cael ei defnyddio i lywio polisi ar draws Llywodraeth Cymru o dan Raglenni Llywodraeth y presennol a’r dyfodol.

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors