Archwiliwch
Yn ddiweddar, rydym wedi nodi 25 mlynedd ers sefydlu Chwarae Cymru fel yr elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru.
I ddathlu’r garreg filltir hon, rydym yn lansio’n gwefan newydd a logo newydd sbon.
Gobeithiwn eich bod yn hoffi’r edrychiad newydd! Mae’r wefan yn llawn gwybodaeth am:
- Chwarae
- Gwaith chwarae
- Polisi a deddfwriaeth chwarae
- Y newyddion diweddaraf a chyfleoedd cyllid
- Digwyddiadau a swyddi yn y sector
… yn ogystal â’n llyfrgell o adnoddau rhad ac am ddim.
‘Dyw rhai o’n hadnoddau – fel taflenni gwybodaeth – ddim yn barod i’w hychwanegu i’r wefan ar hyn o bryd. Felly, os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cofiwch gysylltu â ni.
Adborth
Os oes gennych chi adborth ymarferol ar ein gwefan newydd hoffem glywed gennych chi. Rydym yn gwerthfawrogi adborth a fydd yn ein helpu i wella ein gwefan ac i hysbysu ein gwaith yn y dyfodol. I rannu eich barn, ebostiwch ni os gwelwch yn dda.