Archwiliwch
Mae pleidleisio nawr ar agor ar gyfer gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023, a drefnir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r wobr yn cydnabod, dathlu a rhannu gwaith y rhai sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Eleni mae pum gweithiwr o bob rhan o’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar wedi’u dewis i gyrraedd rownd derfynol y wobr. Bydd yr enillydd yn cael ei benderfynu gan bleidlais y cyhoedd, a’i gyhoeddi yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ym Mhen Llŷn ar 10 Awst 2023.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei darlledu’n fyw ar YouTube gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dyddiad cau ar gyfer pleidleisio: 31 Gorffennaf 2023.