Cym | Eng

Newyddion

Pleidleisio nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2024

Date

16.01.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae pleidleisio nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2024.

Mae’r gwobrau, a drefnir gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, yn cydnabod ac yn dathlu rôl werthfawr gweithwyr chwarae, gwirfoddolwyr a rheolwyr wrth gefnogi plant i chwarae.

Mae cyfanswm o 10 categori gwobrau, gyda thri chategori yn agored i bleidlais gyhoeddus o restr fer o enwebeion anhysbys.

Y tri chategori y gellir pleidleisio arnynt yw:

  • Clwb All-Ysgol y Flwyddyn 2024 (tri enwebai)
  • Gweithiwr Chwarae’r Flwyddyn (saith enwebai)
  • Dysgwr y Flwyddyn (pedwar enwebai).

Bydd enillwyr y 10 gwobr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni a chynhadledd ar-lein ar 6 Mawrth 2024.

Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 26 Chwefror 2024.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors