Archwiliwch
Mae taflen wybodaeth newydd gan Gonsortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr adolygiad Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Chwarae (NOS) dros haf 2024. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y sector gwaith chwarae yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, a sicrhau yr ymgynghorir â’r sector a’i fod yn rhan o’r broses gyfan.
Mae Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU yn cynnwys Chwarae Cymru, Play Scotland, PlayBoard Northern Ireland, Play England a’r Playwork Foundation. Sefydlwyd y consortiwm i gynllunio’n strategol ar draws y pedair gwlad ar gyfer dyfodol mentrau datblygu’r gweithlu a sgiliau sector, gan gynnwys adolygiad o’r NOS.