Cym | Eng

Newyddion

Diweddariad Ionawr 2024 ar Cynllun plant a phobl ifanc

Date

07.02.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Julie Morgan AS, wedi cyhoeddi diweddariad ar y Cynllun plant a phobl ifanc ar gyfer Ionawr 2024.

Nododd y cynllun yr addewidion y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i gefnogi pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru – megis cefnogi eu hawl i chwarae. Mae’r diweddariad yn rhoi trosolwg o’r cynnydd a’r gweithredoedd a gymerwyd ers cyhoeddi’r cynllun gyntaf yn 2022. Mae’r gweithredoedd yn ymwneud a chwarae plant yn cynnwys:

  • darparu cyllid i Chwarae Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Cwlwm i gefnogi’r sector gofal plant a chwarae
  • darparu cyllid ar gyfer Haf o hwyl a Gaeaf lles yn 2022
  • cyhoeddi’r adnoddau a chanllawiau i staff ar chwarae, Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, ym mis Mehefin 2023.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors