Archwiliwch
Mae Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Julie Morgan AS, wedi cyhoeddi diweddariad ar y Cynllun plant a phobl ifanc ar gyfer Ionawr 2024.
Nododd y cynllun yr addewidion y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i gefnogi pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru – megis cefnogi eu hawl i chwarae. Mae’r diweddariad yn rhoi trosolwg o’r cynnydd a’r gweithredoedd a gymerwyd ers cyhoeddi’r cynllun gyntaf yn 2022. Mae’r gweithredoedd yn ymwneud a chwarae plant yn cynnwys:
- darparu cyllid i Chwarae Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Cwlwm i gefnogi’r sector gofal plant a chwarae
- darparu cyllid ar gyfer Haf o hwyl a Gaeaf lles yn 2022
- cyhoeddi’r adnoddau a chanllawiau i staff ar chwarae, Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, ym mis Mehefin 2023.