Archwiliwch
Mae adroddiad blynyddol UNICEF UK 2023 yn amlygu llwyddiant Caerdydd fel y ddinas gyntaf yn y DU i gael ei chydnabod yn swyddogol fel Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF.
Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o gynnydd y rhaglen Dinasoedd a Chymunedau sy’n Dda i Blant yn y DU. Mae’n disgrifio cyflawniadau Caerdydd fel bellgyrhaeddol ac eisoes yn cael effaith amlwg ar fywydau plant a phobl ifanc sy’n cael eu magu yn y ddinas.
Mae meysydd gweithgaredd allweddol Caerdydd, a nodir yn yr adroddiad yn cynnwys:
- 42,245 o blant a phobl ifanc yn cyrchu cymorth a chefnogaeth gynnar ers 2019
- Dros 700 o gyfleoedd i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.