Cym | Eng

News

Adroddiad ‘Trends in Children’s Street Play’

Date

08.08.2023

Category

News

Archwiliwch

Mae Play England wedi cyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau ei arolwg Diwrnod Chwarae 2022, a gynhaliwyd mewn partneriaeth ag Achub y Plant.

Mae’r adroddiad, ‘Trends in Children’s Street Play’, yn amlygu sut mae plant sy’n chwarae allan yn rheolaidd ar eu stryd wedi dirywio’n aruthrol dros y 70+ mlynedd diwethaf. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod chwarae allan yn rheolaidd yn gysylltiedig â gwell lles yn ystod plentyndod, yn ogystal â gwell iechyd meddwl pan fyddant yn oedolion.

Crëwyd yr adroddiad gan yr Athro Helen Dodd ar ran Play England. Mae’n dangos bod plant eisiau treulio mwy o amser yn eu hardal leol, ond yn aml yn cael eu hannog i beidio â chwarae neu hongian o gwmpas gan rieni, cymdogion a phlant eraill. Nododd rhieni hefyd eu bod yn poeni bod chwarae eu plant yn peri gofid i gymdogion, yn enwedig eu plentyn yn gwneud sŵn y tu allan.

Casglwyd data arolwg 2022 gan OnePoll a arolygodd 1000 o blant rhwng 6 ac 16 oed, 1000 o oedolion a 1000 o rieni plant 6 i 16 oed. Mae’r cwestiynau’n cyd-fynd ag arolwg blaenorol a gynhaliwyd gan Play England yn 2013 a, lle bo’n bosibl, mae’r adroddiad diweddaraf yn cymharu’r ddwy set ddata.

Mwy o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors