Cym | Eng

Newyddion

Thema Diwrnod Chwarae 2022

Date

23.03.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Diwrnod Chwarae ydi’r diwrnod cenedlaethol dros chwarae, a ddethlir bob blwyddyn ar draws y DU ar ddydd Mercher cyntaf Awst. Byddwn yn dathlu Diwrnod Chwarae 2022 ar Ddydd Mercher 3 Awst.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai’r thema ar gyfer Diwrnod Chwarae eleni ydi …

Chwarae yw’r nod creu cyfleoedd chwarae ar gyfer pob plentyn

Mae’r thema eleni’n anelu i bwysleisio bod chwarae ar gyfer pawb. Mae chwarae’n digwydd ym mhobman, bob dydd, ac mae’n hawl i bob plentyn a pherson ifanc. Mae Diwrnod Chwarae’n annog teuluoedd, cymunedau, a sefydliadau bach a mawr, i ystyried sut allan nhw greu gwell cyfleoedd i bob plentyn chwarae. Yn dilyn yr holl heriau y mae plant a phobl ifanc wedi eu hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd y pandemig Covid-19, mae chwarae’n bwysicach nag erioed.

  • Mae chwarae yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc.
  • Mae chwarae yn caniatáu i blant a phobl ifanc wneud ffrindiau, datblygu perthnasau, a chael hwyl gyda’i gilydd.
  • Mae chwarae yn galluogi plant a phobl ifanc i deimlo cysylltiad gyda’u cymunedau, gan arwain at gymunedau hapusach i bawb.
  • Mae gan chwarae rôl bwysig wrth helpu plant a phobl ifanc i ymdopi gyda straen a phryder, delio gyda heriau, a gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd o’u hamgylch.

Rydym yn galw am fwy o chwarae, gwell chwarae, bob dydd!

Wedi dwy flynedd o gyfyngiadau ar hyd a lled y DU, rydym yn edrych ymlaen at glywed am y ffyrdd cyffrous yr ydych yn bwriadu dathlu Diwrnod Chwarae eleni. Ymwelwch â gwefan Diwrnod Chwarae i rannu eich digwyddiadau.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch eleni, dilynwch ni ar Facebook a Twitter a rhannwch eich cynlluniau gyda ni trwy ddefnyddio’r hashnodau #DiwrnodChwarae2022 a #ChwaraeYwrNod.

Rhagor o wybodaeth

Cydlynir Diwrnod Chwarae gan Play England, Chwarae Cymru, Play Scotland a PlayBoard Northern Ireland

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors