Archwiliwch
Rydym wedi cyhoeddi taflen wybodaeth newydd sy’n archwilio beth sy’n unigryw am waith chwarae a rôl y gweithiwr chwarae.
Mae’r daflen wybodaeth Gwaith chwarae – beth sy’n ei wneud mor arbennig? wedi’i hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am waith chwarae a rôl y gweithiwr chwarae. Mae’n disgrifio sut mae gweithwyr chwarae’n hwyluso chwarae plant ac yn esbonio sut mae gwaith chwarae’n berthnasol i’r Egwyddorion Gwaith Chwarae, yn enwedig Egwyddorion 3 i 8.
Wedi’i chyhoeddi’n wreiddiol yn 2016, mae’r daflen wybodaeth yn archwilio’r effaith gaiff cysylltiad gweithwyr chwarae ar chwarae plant a gofodau chwarae. Mae’r fersiwn newydd yn disgrifio sut y mae Sylw Cyffredinol rhif 17 y Cenhedloedd Unedig ar Erthygl 31 yn amlinellu rôl bwysig oedolion wrth roi’r gefnogaeth angenrheidiol i blant wireddu eu hawl i chwarae.
Mae’r daflen wybodaeth hefyd yn cynnwys rhestr wirio ar gyfer hwyluso man chwarae, yn ogystal â chyfeirio at ddarllen pellach am waith chwarae a’r Egwyddorion Gwaith Chwarae.