Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn pobl am yr adnoddau Chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru a gynhyrchwyd ar gyfer lleoliadau gofal plant a chwarae ac ysgolion ym mis Mehefin 2023.
Datblygwyd y dogfennau gan ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr, i gefnogi darpariaeth o ansawdd ar gyfer pob baban a phlentyn ifanc 0 i 5 oed yng Nghymru. Mae’r arolwg yn rhoi cyfle i fynegi barn ar y dogfennau fel y maent ar hyn o bryd, sut maent yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol a nodi meysydd i’w diwygio ymhellach gan gynnwys unrhyw ddeunyddiau ategol ychwanegol sydd eu hangen.
Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ymarferwyr a rheolwyr gofal plant, gwarchodwyr plant a’u cynorthwywyr, arweinwyr a chynorthwywyr cylchoedd chwarae, gweithwyr chwarae, ymarferwyr Dechrau’n Deg, cynorthwywyr addysgu, athrawon, Athrawon Ymgynghorol Blynyddoedd Cynnar ac arweinwyr Dysgu Sylfaen mewn lleoliadau addysg, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol.
Y dyddiad cau i ymateb i’r arolwg yw 30 Tachwedd 2023.