Cym | Eng

Newyddion

Arolwg: Barn plant a phobl ifanc am chwarae

Date

22.06.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae grŵp o fudiadau plant yn gofyn i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn arolwg, i gefnogi eu hymgyrch ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol o Chwarae.

Mae’r ymgyrch yn cael ei rhedeg gan Eurochild, Achub y Plant, yr International Play Association, BRAC, The Concerned for Working Children, y LEGO Group, y LEGO Foundation, INGKA, Arup, KidZania, a Right to Play.

Mae’r Child Friendly Governance Project yn casglu barn plant a phobl ifanc ar ran y grŵp, trwy arolwg ar-lein dienw. Mae’n cynnwys cwestiynau am bwysigrwydd chwarae, teimladau plant am chwarae ac unrhyw rwystrau i chwarae.

Bydd yr adborth hefyd yn cefnogi galwad i weithredu i arweinwyr y byd a mudiadau am yr hyn y gallant ei wneud i wneud y byd yn fwy chwareus. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad lefel uchel yn ystod cyfarfod Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym mis Medi 2023.

Dyddiad cau ar gyfer yr arolwg: 30 Awst 2023.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors