Archwiliwch
Mae’n bosibl y bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau sy’n cynnig gweithgareddau haf i blant wneud cais i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae’n ofynnol i ddarparwyr sy’n cynnig gofal plant a gweithgareddau megis ysgolion coedwig, gweithgareddau awyr agored a chelf a chrefft i blant dan 12 oed gofrestru. Mae hyn yn berthnasol p’un a yw’r gweithgareddau’n cael eu cynnal yng nghartref y darparwr ei hun, yn yr awyr agored neu mewn lleoliad arall.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau ar bwy y mae’n ofynnol iddynt gofrestru, sut i gofrestru, ac unrhyw eithriadau i’r gofyniad.