Cym | Eng

Newyddion

Stopio cosbi corfforol plant yng Nghymru – taflen wybodaeth

Date

02.02.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

O 21 Mawrth 2022, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae’r newid hwn yn digwydd yn sgil Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

I roi gwybod i’r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi taflen wybodaeth am y newid yn y gyfraith ac sut y bydd yn effeithio ar y sector. Mae’r gweithlu yn cynnwys: y sector gofal plant a gwaith chwarae, gan gynnwys gofal dydd, gwarchod plant, gofal sesiynol, crèches, darpariaeth y tu allan i’r ysgol/gwyliau, darpariaeth gwaith chwarae wedi’i staffio a darpariaeth Dechrau’n Deg, a nanis.

Mae’r daflen wybodaeth yn cynnig gwybodaeth am:

  • Beth yw cosb gorfforol?
  • Beth sy’n newid?
  • Pam mae’r newid yn y gyfraith yn bwysig?
  • Beth sy’n digwydd os bydd rhywun yn cosbi plentyn yn gorfforol ar ôl i’r gyfraith newid?
  • Beth mae hyn yn ei olygu i fy sector i?

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors