Archwiliwch
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru, a drefnir gan Llywodraeth Cymru. Mae’r gwobrau yn cydnabod a dathlu llwyddiannau pobl wahanol o Gymru a thu hwnt.
Mae 10 categori gwobrau, a’r cyhoedd sy’n enwebu am naw ohonynt:
- Arloesedd, gwyddoniaeth a thechnoleg
- Busnes
- Chwaraeon
- Dewrder
- Diwylliant
- Gweithiwr critigol (gweithiwr allweddol)
- Pencampwr yr amgylchedd
- Person ifanc
- Ysbryd y gymuned
- Gwobr arbennig y Prif Weinidog
Mae’r teilyngwyr a’r enillwyr yn cael eu dewis gan Brif Weinidog Cymru a’i gynghorwyr. Cyflwynir y gwobrau mewn seremoni ym mis Ebrill 2024.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau: 19 Hydref 2023