Archwiliwch
Mae’r Gwobrau yn wobrau a drefnir gan Gofal Cymdeithasol Cymru, sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith grwpiau, timau, sefydliadau ac unigolion o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru nawr yn croesawu ceisiadau ar gyfer Gwobrau 2025 gan grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal ag enwebiadau ar gyfer gwobrau gweithwyr unigol.
Y categorïau yw:
- Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
- Datblygu ac ysbrydoli’r gweithlu
- Gweithio mewn partneriaeth
- Gweithio yn ôl egwyddorion arferion sy’n seiliedig ar gryfderau
- Gwobr arweinyddiaeth ysbrydoledig
- Gwobr Gofalwn Cymru.
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 1 Tachwedd 2024.