Cym | Eng

News

Rhannwch eich profiadau o effaith y pandemig COVID-19

Date

08.11.2023

Category

News

Archwiliwch

Mae Ymchwiliad COVID-19 y DU yn gofyn i bobl rannu eu profiadau o sut effeithiodd y pandemig ar eu bywydau, trwy ei ymgyrch Every Story Matters.

Nod yr ymgyrch yw casglu straeon gan ddinasyddion y DU dros 18 oed, er mwyn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o effaith y pandemig. Bydd adroddiadau thematig yn cael eu cynhyrchu o’r wybodaeth a gasglwyd, gydag argymhellion yn cael eu datblygu i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd Ymchwiliad COVID-19 y DU yn cyflwyno prosiect ymchwil pwrpasol wedi’i dargedu, gan glywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc yr effeithir arnynt fwyaf gan y pandemig, i helpu i lywio ei ganfyddiadau a’i argymhellion.

Bydd amseroedd pellach ar gyfer yr ymchwiliad cyfreithiol a gwrandawiadau i effaith y pandemig ar addysg, plant a phobl ifanc yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2024.

Mae Chwarae Cymru wedi cyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad, gan ddarparu gwybodaeth am yr amrywiaeth o weithgareddau a wnaethom i gefnogi teuluoedd. Mae’r ymateb ar gael ar gais i helpu i hysbysu eraill sy’n rhannu eu profiadau.

Bydd yr ymgyrch yn parhau drwy gydol yr ymchwiliad.

Mwy o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors