Archwiliwch
Mae Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) bellach ar gael i’w gwblhau ar-lein.
Mae’r SASS yn ffurflen ar-lein y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob gwarchodwr plant a darparwr gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru ei chwblhau.
Bydd y wybodaeth a ddarperir drwy’r cyflwyniad SASS yn helpu AGC i gynllunio arolygiadau a darparu’r cymorth a’r gefnogaeth gywir i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Bydd y data o bob rhan o Gymru yn cael eu coladu, eu gwneud yn ddienw a’u cyhoeddi yn ddiweddarach yn 2024.
Bydd angen cyfrif AGC Ar-lein ar ddarparwyr i gwblhau’r SASS. Dylai’r rhai nad oes ganddynt gyfrif gymryd camau brys i greu un.
Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r SASS yw 15 Mawrth 2024.